Taflen am gleifion, gofalwyr a ddefnyddwyr gwasanaethau (dwyieithog)
Taflen am ymchwilwyr (dwyieithog)
Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Amdanom Ni
Sefydlwyd Cynnwys Pobl i gefnogi ac annog cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yr hyn a olygwn wrth gymryd rhan mewn gwaith ymchwil yw cymryd rhan weithredol, sef bod pobl, nid yn unig yn destun i’r ymchwil, ond hefyd yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli, cynnal a chyflwyno gwaith ymchwil. Gallai hyn olygu gwirio taflenni cleifion, trafod syniadau a blaenoriaethau ymchwil, rhoi safbwynt gofalwyr ar fater neu helpu i ledaenu canlyniadau ymchwil.
Rydyn ni’n annog cyfranogiad mewn ymchwil drwy:
- Gydlynu cyfleoedd i gleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth gymryd rhan mewn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant.
- Darparu cyngor ar yr arfer gorau i ymchwilwyr a’u cysylltu gyda chleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth sy’n fodlon cymryd rhan.
Credwn y bydd cynnwys pobl yn arwain at waith ymchwil a fydd yn fwy perthnasol i anghenion a phryderon pobl, yn fwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
