Cwestiynau Cyffredin
Beth yw cymryd rhan mewn ymchwil?
Mae Cynnwys Pobl yn helpu pobl i gymryd rhan mewn ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gellir disgrifio ymchwil fel canfod pethau a darparu gwybodaeth newydd. Nod ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw dysgu mwy am faterion iechyd, gan gynnwys yr hyn sy’n achosi salwch ac effeithiau triniaethau, a materion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gan gynnwys anghenion cefnogaeth pobl hŷn.
Yr hyn a olygwn wrth gymryd rhan mewn gwaith ymchwil yw cymryd rhan weithredol, sef bod pobl, nid yn unig yn destun i’r ymchwil, ond hefyd yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli, cynnal a chyflwyno gwaith ymchwil. Gellir disgrifio’r math hwn o gyfranogiad fel ymchwil a wneir gyda'r cyhoedd, nid amdanynt.
Ffyrdd o gymryd rhan?
Gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol ac mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol, gan gynnwys:
- canfod pynciau ymchwil a helpu i benderfynu pa ymchwil dylid ei gyllido
- helpu ymchwilwyr i gynllunio eu prosiectau ymchwil
- helpu i ysgrifennu dogfennau ymchwil, er enghraifft taflenni gwybodaeth ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.
- helpu i reoli’r prosiect ymchwil, drwy ymuno â grŵp llywio neu ymgynghorol
- helpu i gynnal yr ymchwil, gan gynnwys helpu gyda chyfweliadau
- helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r ymchwil a chyfleu canfyddiadau’r ymchwil
Gall y math o gyfranogiad mewn ymchwil amrywio o holi pobl am eu barn i alluogi pobl i arwain y ffordd.
Manteision cymryd rhan?
Gall cymryd rhan mewn ymchwil arwain at fanteision i’r ymchwil ei hun ac i’r rheini sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil.
Manteision i’r ymchwil
Mae manteision cynnwys pobl mewn ymchwil yn cynnwys gwneud yn siŵr bod yr ymchwil yn gofyn y cwestiynau iawn mewn ffordd sydd o fudd i bobl, a helpu i wneud yn siŵr yr eir at y bobl yr ymchwilir iddynt yn y ffordd iawn.
Manteision i’r rheini sy’n cymryd rhan
Mae manteision i’r rheini sy’n cymryd rhan yn cynnwys eu galluogi i gael dweud eu dweud mewn ymchwil a allai effeithio arnyn nhw, ar eu teulu neu ar eu ffrindiau a dysgu rhagor iddynt am ymchwil a’r pynciau yr ymchwilir iddynt.
Gall cymryd rhan mewn ymchwil hefyd fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl.
Taliad ar gyfer cymryd rhan?
Dylech bob tro gael eich ad-dalu am unrhyw dreuliau rhesymol, gan gynnwys eich costau teithio.
Efallai y cynigir swm i chi am eich amser, ond bydd hyn yn dibynnu ar y prosiect a beth fydd eich cyfranogiad.
Er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl cymryd rhan mewn ymchwil, mae Cynnwys Pobl yn darparu Hyfforddiant a Chefnogaeth.
