Crynodeb Ymgynghoriad NISCHR CRC ar Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) 2011 - 1.51 MB
Involving People Evaluation 2009 - 3.8 MB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Deall y Jargon - 100 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Cyfarfod Blynyddol Cynnwys Pobl 2010
12 Ebr 2010Hoffwn roi gair o ddiolch i’r holl aelodau rhwydwaith a ddaeth i’n Cyfarfod Blynyddol, a gynhaliwyd ar 18 Mawrth yng Ngwesty’r Future Inn, Bae Caerdydd. Cafwyd amser da ar y diwrnod, a gwnaethom i gyd fwynhau cwrdd â llawer o wynebau newydd, yn ogystal â dal i fyny ag wynebau mwy cyfarwydd!
Involving People Introduction - Judith Oades & Bryan Collis
Catalysts for Change - Derek Stewart
Celebrating Success - David Rea
Thema’r Cyfarfod Blynyddol hwn oedd ‘Straeon’, a drwy gydol y diwrnod, clywsom straeon, a dangoswyd straeon i ni; yn ystod cyflwyniadau, yn ystod y gweithdai a drwy gyfrwng Straeon Digidol. Mae gan bawb stori i’w adrodd, neu brofiad i’w rannu, a gwnaethom wahodd cynrychiolwyr a siaradwyr i wirioneddol wrando ar straeon pobl, i geisio deall y materion y siaradwyd amdanynt, i nodi’r rhwystron y mae unigolion yn eu hwynebu, ac i gofio'r negeseuon pwysig oedd yn cael eu cyfleu.
Yn ystod rhai o’r gweithdai, roeddem yn adrodd straeon am brofiadau personol yn ymwneud â phroblemau, ac roeddem yn trafod ‘y rhwystrau rhag cynhwysiant’, o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth/gofalwr ac o safbwynt yr ymchwiliwr. Roedd yn sesiwn ddiddorol a oedd yn amlygu pwysigrwydd ceisio bodloni anghenion yr unigolyn; rydym i gyd yn wahanol, a gall rhywbeth nad yw'n rhwystr i un unigolyn fod yn fynydd i unigolyn arall ei ddringo.
Gwerthfawrogwyd ein siaradwyr gwadd, Tim Maughan a Derek Stewart, yn fawr, ac roedd yr adborth a gawsom am y diwrnod yn eithriadol o gadarnhaol. Siaradodd yr Athro Maughan, Cyfarwyddwr NISCHR CRC (CRC Cymru gynt), am y newidiadau a brofwyd gan y Cydweithrediad Ymchwil Clinigol ers iddo gael ei sefydlu, ac amcanion ac uchelgais y cydweithrediad ar gyfer y dyfodol. Fe wnaeth esbonio'r ailstrwythuro o CRC Cymru i NISCHR CRC, a'r goblygiadau ar gyfer Cynnwys Pobl a'r rhwydwaith. Mae Derek Stewart, OBE, yn hyrwyddwr Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, a siaradodd am newid diwylliant cynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn gwaith ymchwil ynghylch gofal cymdeithasol ac iechyd. Siaradodd am ddefnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn bod yn 'asiantau dros newid' drwy fod yn arweinyddion a newid ymddygiad pobl drwy ddweud y gwir a drwy weithgareddau wedi’u targedu.
