Newyddion diweddaraf
WCVA yn darparu cefnogaeth a chyllid i bobl gymryd rhan mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol
7 Tach 2008Sefydlwyd Cynnwys Pobl i gefnogi ac annog cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cynnwys Pobl wedi ymrwymo i gynnwys pobl yn weithredol ac yn deg mewn ymchwil ac mae'n darparu cefnogaeth a chyllid i sicrhau y caiff cyfraniad y rheini sy'n cymryd rhan ei gydnabod yn deg.
Noddir Cynnwys Pobl gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Cymru (WORD) ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n bartneriaeth rhwng WCVA, Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru (CRC Cymru) ac Ysgol Gwyddor Iechyd, Prifysgol Abertawe.
Mae Cynnwys Pobl yn gweithio gydag ymchwilwyr ac mae'n helpu i gydlynu cyfleoedd ar gyfer cleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaethau ac aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Yr hyn a olygir wrth gymryd rhan mewn gwaith ymchwil yw cymryd rhan weithredol, sef bod pobl, nid yn unig yn destun i'r ymchwil, ond hefyd yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli, cynnal a chyflwyno gwaith ymchwil.
'Credwn y bydd cynnwys pobl yn arwain at waith ymchwil a fydd yn fwy perthnasol i anghenion a phryderon pobl, yn fwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol', meddai Swyddog Cynnwys Pobl, Natalie Simon.
Mae Cynnwys Pobl yn rhoi gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i ymchwilwyr i sicrhau eu bod yn dilyn ymarfer da wrth gynnwys pobl yn eu gwaith. Ac mae'n darparu gwybodaeth a hyfforddiant i'w rwydwaith o gleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn barod i gymryd rhan.
'Rydym yn cefnogi cynnwys pobl mewn ymchwil mewn modd gweithredol a theg. Ein hargymhelliad yw y dylai pobl gael, o leiaf, eu had-dalu am unrhyw dreuliau i'w galluogi i gymryd rhan, a dylent gael cydnabyddiaeth am amser pan fydd hynny'n briodol ac yn bosibl.
'O brofiad, mae Cynnwys Pobl yn cydnabod yr anawsterau o ran ad-dalu treuliau a thalu am amser. Er enghraifft, gall rhai sefydliadau, gan gynnwys rhai prifysgolion, gymryd chwe wythnos neu fwy i brosesu ac ad-dalu treuliau, a/neu dalu am amser. Ac mae talu am amser yn aml yn golygu ei bod yn rhaid i'r rheini sy'n cymryd rhan gofrestru fel aelod o staff, sy'n gallu achosi anawsterau pan fydd pobl yn cael budd-daliadau.'
Gan gofio'r materion hyn, mae Cynnwys Pobl wedi datblygu'r Gronfa Hybu Cyfranogiad, a ddarperir drwy WCVA, i ddarparu cyllid i bobl allu cymryd rhan deg a gweithredol mewn grwpiau datblygu ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r Gronfa Hybu Cyfranogiad ar gael ar gyfer ymchwil sydd wedi ei gymeradwyo ar gyfer portffolio CRC Cymru (prosiectau sydd wedi cael eu hadolygu gan eu cyfoedion a’u hariannu ar ol cystadlu cenedlaethol agored), a gall ddarparu ad-daliadau am dreuliau, gan gynnwys costau teithio a gofal arall, i'r rheini sy'n cymryd rhan. Gall hefyd ddarparu taliadau am amser (cydnabyddiaeth), i'r rheini sy'n cymryd rhan. A chaiff y taliadau hyn eu darparu cyn deg diwrnod gwaith ar ôl derbyn ffurflenni hawlio. Gall y gronfa hefyd ddarparu taliadau ymlaen llaw er mwyn gallu ad-dalu treuliau mewn arian parod yn y cyfarfod (ar gael pan fydd y sefydliad sy'n cynnal yn gallu darparu system arian parod briodol).
Dywedodd Bryan Collis, Cyfarwyddwr Cyswllt, Cynnwys Pobl: 'Nod y gronfa a gefnogir gan CRC Cymru a WORD, yw diwallu angen pwysig i bobl gymryd rhan mewn ymchwil: talu treuliau'n ddiymdroi a llai o fiwrocratiaeth.'
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Natalie Simon, Swyddog Cynnwys Pobl nsimon@wcva.org.uk, 029 2043 1771, www.involvingpeople.org.uk www.cynnwyspobl.org.uk.
