Crynodeb Ymgynghoriad NISCHR CRC ar Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) 2011 - 1.51 MB
Involving People Evaluation 2009 - 3.8 MB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Deall y Jargon - 100 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Ymchwilwyr
Ydych chi’n ymchwilydd?
Oes arnoch eisiau cynnwys pobl yn eich gwaith ymchwil?
Os felly, gallwn eich helpu chi!
Gallwn eich helpu i gynnwys pobl yn eich gwaith ymchwil drwy sicrhau mynediad at ein rhwydwaith o gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sy’n barod ac yn fodlon cyfrannu. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Gallwn hefyd helpu drwy:
- Ddarparu Hyfforddiant a chefnogaeth
- Darparu cyngor ar arfer da wrth gynnwys pobl i weithio gyda chi mewn ymchwil a’r ffordd orau o ‘ysgrifennu’ cyfranogiad o’r fath mewn cynnig ymchwil.
Gellir darllen y ddogfen Canllawiau i Ymchwilwyr yma.
Gwybodaeth Ychwanegol
Llwybrau i gynnwys pobl mewn ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru: dogfen gyfeirio. Mae’r papur hwn yn nodi’r ffyrdd y mae pobl yn cymryd rhan yn y GIG a’r sector gwirfoddol ar draws Cymru gyfan. Yn 2007, cyflwynodd Cynnwys Pobl ymarfer ‘mapio’ er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o’r polisïau, strwythurau, cyfleoedd ac ymagweddau i gynnwys pobl ar draws pob sector yng Nghymru. Os hoffech ddarllen mwy am hyn, gallwch lwytho’r adroddiad i lawr yma.
