Hyfforddiant a chefnogaeth
Er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae Cynnwys Pobl yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth.
Hyfforddiant ar gyfer cleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o'r cyhoedd
Mae’r cyfleoedd hyfforddi canlynol ar gael ar gyfer aelodau Rhwydwaith Cynnwys Pobl. Cliciwch ar ddolen y gweithgaredd hyfforddi i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am yr hyn sydd ar gael a sut mae archebu lle.
Hyfforddiant Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion – Rhwydwaith Ymchwil Glinigol y DU
Hyfforddiant CRC Cymru
Hyfforddiant Cynnwys Pobl
Macmillan NRCRN training workshops
Hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr
Mae’r cyfleoedd hyfforddi canlynol ar gael ar gyfer aelodau Rhwydwaith Cynnwys Pobl ac aelodau CRC Cymru. Cliciwch ar ddolen y gweithgaredd hyfforddi i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion sut mae archebu lle.
Hyfforddiant Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion – Rhwydwaith Ymchwil Glinigol y DU
Hyfforddiant CRC Cymru
Cefnogaeth
Mae Cynnwys Pobl yn cynnig cefnogaeth i gleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth gymryd rhan yn y ffyrdd canlynol:
- Darparu cyngor am gymryd rhan, gan gynnwys beth i'w ddisgwyl wrth gymryd rhan
- Ar gais, cyfarfod â'r sawl sydd am gymryd rhan cyn ei weithgaredd cymryd rhan cyntaf a/neu fynd gyda'r person hwnnw i'w gyfarfod/gweithgaredd cyntaf.
Mae Cynnwys Pobl yn cynnig cefnogaeth i ymchwilwyr sy’n ceisio cynnwys pobl yn eu gwaith ymchwil yn y ffyrdd canlynol:
- Darparu cyngor am y ffordd orau i gynnwys pobl mewn gwaith ymchwil
- Darparu cyngor am y ffordd orau i ychwanegu cyfranogiad o’r fath at gynnig ymchwil
