Crynodeb Ymgynghoriad NISCHR CRC ar Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) 2011 - 1.51 MB
Involving People Evaluation 2009 - 3.8 MB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Deall y Jargon - 100 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Y Cefndir
Sefydlwyd Cynnwys Pobl yn 2006 fel rhan o Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru (CRC Cymru), gydag arian gan Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu (WORD). Nod CRC Cymru oedd darparu mewnbwn i strategaeth, datblygu a gweithredu gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn 2010, cyflwynwyd bid i ail-gomisiynu Cynnwys Pobl i WORD.
Yn dilyn ailstrwythuro (gweler yr eglurhad isod), rhoddwyd cyllid tan 2013. Yn Ebrill 2010, symudodd y prosiect Cynnwys Pobl i Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR CRC).
I gael rhagor o wybodaeth am gefndir y prosiect Cynnwys Pobl, gallwch lwytho Gwerthusiad Cynnwys Pobl oddi ar y we (cliciwch ar y ddolen ar dudalen flaen y wefan: Amdanom Ni)
NISCHR

Lansiwyd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) yn 2009 ar ôl iddo gael ei nodi fel un o'r ymrwymiadau yn 'Cymru'n Un: Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru’ (2007). Mae NISCHR yn un o fentrau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n cynnwys Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu (WORD). Mae NISCHR yn darparu'r seilwaith, yr arian a'r gwaith cydgysylltu penodedig i gefnogi datblygiad ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o safon. Ei nod cyffredinol yw helpu i lunio polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella iechyd a chyfoeth pobl yng Nghymru.
Mae NISCHR yn cydweithio â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn Lloegr ac mae'n aelod o'r Swyddfa Cydlynu Strategol Ymchwil i Iechyd (OSCHR) ar lefel y DU.
Mae NISCHR yn ariannu 17 o Grwpiau Ymchwil Cofrestredig NISCHR; amrywiaeth o Grwpiau Seilwaith Ymchwil a Chymorth Technegol; Tair Uned Dreialu a Chanolfan Ymchwil Glinigol NISCHR.
NISCHR CRC

Sefydlwyd Canolfan Ymchwil Glinigol NISCHR (NISCHR CRC) yn 2010 ac mae'n dwyn ynghyd Ganolfan Gydgysylltu Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru (CRC Cymru) a Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru (WCRN) (www.wcrn.org.uk). Caiff ei chynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre drwy is-gontract gan Brifysgol Caerdydd.
Mae NISCHR CRC yn darparu staff ymchwil sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd, De-ddwyrain a De-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn weithwyr ymchwil proffesiynol hyfforddedig â phrofiad o gysylltu'n uniongyrchol â chleifion a defnyddwyr gwasanaethau, sy'n gweithio i gefnogi prosiectau ymchwil NISCHR. Mae timau ymroddedig yng Nghaerdydd hefyd sy'n arwain gwaith hyfforddi a datblygu, Cynnwys Pobl, gwybodaeth, cyfathrebu, cyllid a gweinyddu.
Nod cyffredinol NISCHR CRC yw gwella gofal yn y dyfodol drwy ddatblygu a chefnogi rhagoriaeth mewn ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae NISCHR CRC yn gweithio i:
- wella perthnasedd drwy gefnogi astudiaethau ymchwil sy'n ‘canolbwyntio ar bobl’ a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
- cynnwys pobl drwy gynnig cyfleoedd i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'r cyhoedd gymryd rhan mewn datblygu ymchwil;
- cynyddu gallu drwy ddarparu gweithlu ymchwil sy'n gymwys a hygyrch er mwyn cynyddu nifer yr astudiaethau ymchwil sy'n recriwtio yng Nghymru;
- cynnig safon drwy ddarparu hyfforddiant achrededig i ymchwilwyr ledled Cymru;
- gweithio gyda partneriaid mwen ymchwil y GIG ac ymchwil academaidd ac ystyried cyfleoedd ar y cyd.
www.nischr-crc.wales.nhs.uk
