Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Chris Davies
Beth rydw i’n ei wneud fel aelod o Grŵp Ymgynghorol Cynnwys Pobl
Rwy’n mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi, ac rwy’n trafod ffyrdd y gallwn symud ymlaen er mwyn gwella’r Rhwydwaith.
Pryd a pham yr ymunais â Chynnwys Pobl
Ymunais â Chynnwys Pobl tua thair blynedd yn ôl. Mynychais Gynhadledd CRC drwy fy ngwaith gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, a chefais wahoddiad i ymuno â Chynnwys Pobl drwy’r Gynhadledd hon. Derbyniais y gwahoddiad oherwydd fy mhroblemau iechyd fy hun, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwella fy mhrofiadau drwy wneud gwaith Ymchwil.
Yr hyn roeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Chynnwys Pobl.
Roeddwn yn gweithio yn y maes Peirianneg nes i mi ymddeol yn gynnar. Roeddwn yn Gynghorydd Cymuned am nifer o flynyddoedd, yn ogystal ag yn Llywodraethwr Ysgol.
Yr hyn hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto.
Hoffwn fod yn rhan o’r broses o sicrhau dyfodol gwell ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Nod personol gen i hefyd yw cael y cyfle i deithio mwy.
Hoff ddyfyniad enwog
Efallai nad yw’r canlynol yn ddyfyniad enwog, ond mae’n ddyfyniad y cefais afael arno drwy fy ngwaith gyda fy ymddiriedolaeth iechyd lleol, a chynigiais y dyfyniad i Cynnwys Pobl fel dywediad priodol ar gyfer ein rhwydwaith.
Dywed wrthyf, ac fe fyddaf yn anghofio.
Dangos i mi, ac efallai y byddaf yn cofio.
Cynnwys fi, ac fe fyddaf yn deall.
(Tell me and I will forget.
Show me and I might remember.
Involve me and I will understand.)