Jan Davies

Yr hyn rydw i’n ei wneud fel aelod o Grŵp Ymgynghorol Cynnwys Pobl.

Ar hyn o bryd, fi yw Is-gadeirydd Grŵp Ymgynghorol Cynnwys Pobl. Rwy’n mynychu Cyfarfodydd a Chyrsiau Hyfforddi ar ran Rhwydwaith Cynnwys Pobl. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn rhan o Werthuso Rhwydwaith Cynnwys Pobl, o adeg ei sefydlu, gan edrych ar ei lwyddiannau (a'i fethiannau) a’i amcanion ar gyfer y dyfodol.

Pryd a Pham yr ymunais â Chynnwys Pobl.

Ymunais â Chynnwys Pobl tua thair blynedd yn ôl. Cefais fy nghyflwyno i Cynnwys Pobl pan fynychais Gynhadledd Cydweithrediad Ymchwil Clinigol (CRC) yng Nghaerdydd. Gofynnwyd i mi fynychu’r Gynhadledd drwy’r gwaith rwyf yn ei wneud gyda Bwrdd Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd fy ysbyty lleol.

Mae gen i gyflwr cronig, a derbyniais y cyfle i gynnwys fy hun mewn gwaith ymchwil wedi'i drefnu, ac i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

Rwy’n ystyried bod mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth yn rhoi ansawdd i waith Ymchwil, ac mae hyn bellach wedi’i gydnabod. Mae Ymchwilwyr yn cael eu hannog, drwy lywodraethu, i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn pob math o waith Ymchwil.

Yr hyn roeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Chynnwys Pobl.

Treuliais nifer o flynyddoedd yn y diwydiant cemegol ar ôl gadael y byd addysg. Hefyd, treuliais nifer o flynyddoedd yn y cartref yn gofalu am deulu. Yn y cyfnod hwn, ymgymerais ag ail radd mewn Dyniaethau.

Yr hyn hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto.

Ar fy rhestr o bethau yr hoffwn eu gwneud cyn i mi farw, mae gen i restr o wledydd yr hoffwn eu gweld. Rwyf wedi llwyddo i weld nifer ohonynt, ac rwy’n dal ati i geisio gweld gweddill y gwledydd sydd ar y rhestr. Yn anffodus, bydd rhwystrau iechyd ac ariannol yn pennu beth gallaf ei gyflawni, ond gyda chymorth gan GIG gwell - pwy ag ŵyr.

Hoff ddyfyniad enwog

Rwy’n hoff o nifer o ddyfyniadau, ond fe ddewisaf y canlynol

Yr unig beth sydd ei angen ar ddrygioni er mwyn iddo orchfygu, yw i bobl dda wneud dim

(The one thing necessary for the triumph of evil is for good men to do nothing) – Edmund Burke