Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Martyn Hooper
Yr hyn rydw i’n ei wneud fel aelod o Grŵp Ymgynghorol Cynnwys Pobl.
Rwy’n ceisio cynnig safbwynt cleifion ar ymchwil arfaethedig neu ymchwil gyfredol.
Pryd a Pham yr ymunais â Chynnwys Pobl.
Ymunais â Cynnwys Pobl ddiwedd 2007. Roeddwn am gyfrannu mewn unrhyw ffordd a helpu i sicrhau bod prosiectau ymchwil yn canolbwyntio ar anghenion cleifion.
Yr hyn roeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Chynnwys Pobl.
Arferwn fod yn Athro Addysg Bellach a Phrifysgol cyn canfod fod gennyf Anaemia Dinistriol. Ni chanfuwyd bod y clefyd arnaf am amser hir, ac felly mae gennyf anabledd parhaol a bu'n rhaid i mi ymddeol yn gynnar o'm gyrfa. Sefydlais Gymdeithas Anaemia Pernicious, a fi sy’n gyfrifol am redeg y Gymdeithas.
Yr hyn hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto.
Hoffwn helpu i ddatblygu ffordd lle gall y bobl y mae'r gwaith ymchwil yn effeithio arnynt chwarae rhan weithredol yn y cynigion ymchwil amlinellol.
Hoff ddyfyniad enwog
"Ever since I’ve been born I’ve had this feeling that something is going on and nobody is telling me about it"